Non ti piace? Non importa! Puoi restituire gli articoli fino a 30 giorni
Non puoi sbagliarti con un buono regalo. Con il buono regalo, il destinatario può scegliere qualsiasi prodotto della nostra offerta.
Yn ôl ysgolheigion ffeministaidd mae tystiolaeth bendant ynglŷn â''r ffordd y mae cyfraniad menywod i ddrama, theatr a pherfformiad yn aml iawn yn cael ei hepgor, ei ''ysgrifennu allan'', ei osod ar yr ymylon yn ddiwylliannol a''i wneud yn anweledig. Ac mae''n ffaith nad oes fawr o astudiaeth o hanes y theatr yng Nghymru sydd naill ai''n cydnabod neu''n cynrychioli gwaith ysgrifennu menywod ar gyfer y theatr Gymraeg. Yn y cyd-destun hwn, mae''r gyfrol hon sydd yn ddilyniant i gyfrol arloesol Theatr Y Gymraes yn trafod gwaith Sera Moore Williams yn ymdrech i lenwi''r bylchau a chyfoethogi''r hanes trwy ddogfennu tair drama ysgrifenwyd a perfformiwyd gan Sharon Morgan i Rhosys Cochion. Yn anorfod ac yn anad dim mae''r testunau a''r cyddestun a roddir iddynt yn cyfeirio at y profiad diwylliannol o fod yn fenyw ac yn Gymraes, at hunaniaeth a''r estheteg fenywaidd sydd yn cydnabod y corff benywaidd fel gwraidd creadigrwydd.